Dywedwch wrth y Prif Weinidog: Mae'n rhaid i Gymru beidio oedi ar ddeddfau newydd i warchod byd natur
Mae ein hamgylchedd naturiol dan beryg, ac angen ein help.
Yr ateb yw Bil newydd uchelgeisiol a fydd yn amlinellu Cymru Natur Bositif - sy'n golygu atal a gwrthdroi colled natur erbyn 2030.
Mae wedi bod dros flwyddyn a hanner ers i'r Senedd ddatgan argyfwng natur, ond rydym eto i weld deddfau newydd i ddiogelu ac adfer ein tirweddau a'n rhywogaethau Cymreig. O ganlyniad i'r methiant hwn, mae natur yn parhau i fod mewn sefyllfa argyfwng.
Rhaid i ni droi hwn o gwmpas.
Dangoswch i'r Prif Weinidog Mark Drakeford pa mor bwysig yw hyn trwy ofyn iddo'n uniongyrchol gyflwyno'r Bil newydd ar frys, a fydd yn ddigon cryf i wneud gwahaniaeth ystyrlon.