Anfonwch e-bost at eich ymgeiswyr i gefnogi Gwylltio: Y Ffordd Gymreig
Helpwch Gymru i ddod i nabod ei hochr wyllt – dangoswch eich cefnogaeth i ailwylltio yng Nghymru yn yr etholiad hollbwysig hwn
Bydd y blychau pleidleisio yn agor ar 7 Mai ac mae’r polau piniwn yn rhagweld newid digynsail yng nghyfansoddiad y Llywodraeth yng Nghymru. Mae penderfyniadau am fyd natur ar y tir a’r môr - a phwy sy’n cael llais yn y trafodaethau hyn - wedi’u datganoli i’r Senedd.
Ry’n ni’n gweld cefnogaeth gynyddol i ailwylltio ar hyd a lled Cymru, gan gymunedau, tirfeddianwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Yn rhy aml, mae natur yn cael ei gweld fel rhywbeth “braf i’w gael”. Ry’n ni i gyd yn rhan o natur, a phan mae hi’n ffynnu, felly hefyd byddwn ni. Ond mae angen y lle a’r amser arni i adfer.
Mae’r etholiadau ar droed
Mae targedau, addewidion a fframweithiau wedi’u cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, ond dydyn ni ddim wedi gweld cynnydd ystyrlon er mwyn gwrthdroi’r colledion i fyd natur ac adfywio ein tirweddau a’n morweddau. Mae llai na 3% o’r tir a thua 3% o’n moroedd wedi cael eu hasesu ac yn cael eu hystyried i fod mewn cyflwr da ar gyfer byd natur. Rhain yw ein systemau cynnal bywyd ac maen nhw dan bwysau. Er mwyn cyrraedd y targed i neilltuo 30% o’n tir a’n môr ar gyfer gweithredu dan arweiniad natur ac ailwylltio, bydd angen i ni ddefnyddio’r ystod lawn o ddulliau sydd ar gael i ni. Mae gan ailwylltio hanes clir o adfer natur yn gyflym ac mewn ffordd bwerus, gan gyfoethogi bywydau pobl drwy well mynediad at fyd natur a chreu swyddi sy’n fuddiol i’n cymunedau, gan adeiladu economïau newydd o amgylch natur. Amrywiaeth yn y tir a’r môr, amrywiaeth ym myd natur, amrywiaeth pobl, amrywiaeth economi.
Choose your new 2026 constituency to email your candidates by clicking the actions on this page.
Not sure what your constituency is? Find your new 2026 constituency here.