Act Now, Change Forever: Together for People, Climate and Nature

Start: Wednesday, September 17, 202509:30 AM

End: Wednesday, September 17, 202504:00 PM

Location:Urdd Gobaith Cymru / Millennium Centre6b Bute Pl, Cardiff, Cardiff, , CF10 5AL GB

Host Contact Info: actnow@climate.cymru

Start: Wednesday, September 17th, 2025, 09:30-16:00
Location: Urdd Gobaith Cymru, 6b Bute Pl, Cardiff CF10 5AL
Host Contact Info: actnow@climate.cymru

Imagine a surge of collective power, a groundswell of voices rising together to shape a Wales where our communities thrive, our nature is restored, and justice prevails. That moment is arriving!

This September, as Members of the Senedd (MSs) return from summer in their constituencies and regions, we have an unparalleled opportunity to engage with our politicians in shaping a better Wales.

As part of the monumental "Act Now, Change Forever" mass lobby across the UK, we will be meeting politicians to share our ideas and dreams.

What is a mass lobby?

A mass lobby is when lots of people meet with their MS on the same day to have powerful conversations on issues they care about.

On the 17th of September people from across Wales will come to the Welsh Parliament. This is a moment to ask your MS: Will you champion a people powered green future, invest in our communities, and be a force for nature's restoration, ensuring a truly thriving and resilient Wales for all?

This is more than a meeting. It’s the people of Wales stepping into their democracy, face to face with those who represent us.

We are uniting under three urgent and interconnected themes that promise to redefine Wales' future:

Fairness: Forge a Just Transition! Imagine a Wales where every home is warm and efficient, where more of our energy is community-owned, and where no one is left behind - whether they live in Port Talbot or Prestatyn. A truly just transition means looking outward as well as inward, supporting people across Wales and standing in solidarity with those globally who are facing the harshest climate impacts.

Finance: Unleash vital funding! Imagine a Wales where money flows to where it's needed most, where councils can back local ideas, and investment reaches the front lines, from flood defences in Fairbourne to food security in Ferndale.

Restoration & Resilience: Will you be a force for nature? Imagine a Wales where nature is enabled to properly recover, where wetlands slow floods, woodlands cool our towns, and farmers are backed to grow healthy food in ways that protect nature and keep rural communities strong. From the fields of Flintshire to the slopes of Snowdonia, communities thrive when nature does.

Why does this matter?

This is a chance to amplify your voice, your passion, or the campaign you care about - while standing alongside a diverse movement to push our vital demands to the forefront of Welsh politics.

Your passion, your ideas, and your participation are absolutely essential to making this a truly defining moment.

Join us and help shape a better future together!

How can you get involved?

  1. ✅Pledge to attend - let us know you'll be there. Register here: https://actionnetwork.org/events/ignite-change-in-wales-join-the-act-now-change-forever-mass-lobby

  2. ✅Check our Climate Cymru’s website for the latest information and resources : https://climate.cymru/campaigns/act-now/

  3. Let your MSs know you are coming, using the template on our website: https://climate.cymru/campaigns/act-now/

  4. ✅ And lastly….Keep an eye out for more updates soon on, and follow @climatecymru


Dechrau: Dydd Mercher, Medi 17eg, 2025, 09:30-16:00
Lleoliad: Urdd Gobaith Cymru, 6b Bute Pl, Cardiff CF10 5AL Caerdydd
Gwybodaeth Gyswllt Gwesteiwr: actnow@climate.cymru

Dychmygwch ymchwydd o bŵer cydweithredol, chwydd o leisiau yn codi gyda'i gilydd i lunio Cymru lle mae ein cymunedau'n ffynnu, ein natur yn cael ei adfer, a chyfiawnder yn rhagori. Mae'r foment honno yn cyrraedd!

Ym mis Medi, wrth i Aelodau'r Senedd ddychwelyd o'r haf yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau, mae gennym gyfle digyffelyb i ymgysylltu â'n gwleidyddion i lunio Cymru well.

Fel rhan o'r lobi torfol enfawr "Gweithredwch nawr am y dyfodol" ledled y DU, byddwn yn cwrdd â gwleidyddion i rannu ein syniadau a'n breuddwydion.

Beth yw lobi torfol?

Lobi torfol yw pan fydd llawer o bobl yn cwrdd â'u Aelodau o’r Senedd ar yr un diwrnod i gael sgyrsiau pwerus ar faterion maen nhw'n poeni amdanynt.

Ar yr 17eg o Fedi bydd pobl ledled Gymru yn dod i Senedd Cymru. Dyma foment i ofyn i'ch Aelod o’r Senedd: A fyddwch chi'n hyrwyddo dyfodol gwyrdd sy'n cael ei bweru gan bobl, buddsoddi yn ein cymunedau, a blaenoriaethu adfer natur, gan sicrhau Cymru wirioneddol ffyniannus a gwydn i bawb?

Mwy na chyfarfod yw hyn, ond y Cymry yn camu i mewn i'w democratiaeth, wyneb yn wyneb â'r rhai sy'n ein cynrychioli.

Rydym yn uno o dan dair thema frys a rhyng-gysylltiedig sy'n addo ailddiffinio dyfodol Cymru:

Tegwch: Gyrru Pontio Cyfiawn! Dychmygwch Gymru lle mae pob cartref yn gynnes ac yn effeithlon, lle mae mwy o'n hegni yn eiddo i'r gymuned, a lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl - p'un a ydynt yn byw ym Mhort Talbot neu Brestatyn. Mae pontio gwirioneddol gyfiawn yn golygu edrych allan yn ogystal ag i mewn, cefnogi pobl ledled Cymru a sefyll mewn undod â'r rhai sy'n wynebu'r effeithiau hinsawdd llymaf yn fyd-eang.

Cyllid: Rhyddhau cyllid hanfodol! Dychmygwch Gymru lle mae arian yn llifo i'r man lle mae ei angen fwyaf, lle gall cynghorau gefnogi syniadau lleol, a buddsoddiad yn cyrraedd y rheng flaen, o amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Fairbourne i ddiogelwch bwyd yng Nglynrhedynog.

Adfer a Gwydnwch: A fyddech yn ymhelaethu eich nerth natur? Dychmygwch Gymru lle mae natur yn cael ei alluogi i’w adfer, lle mae gwlyptiroedd yn arafu llifogydd, lle mae coetiroedd yn oeri ein trefi, a ffermwyr yn cael eu cefnogi i dyfu bwyd iach mewn ffyrdd sy'n gwarchod natur ac yn cadw cymunedau gwledig yn gryf. O gaeau Sir y Fflint i lethrau Eryri, mae cymunedau'n ffynnu pan fydd natur yn ffynnu.

Pam mae hyn yn bwysig?

Dyma gyfle i ymhelaethu ar eich llais, eich angerdd, neu'r ymgyrch rydych chi'n poeni amdani - tra'n sefyll ochr yn ochr â mudiad amrywiol i wthio ein gofynion hanfodol i flaen y gad yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Mae eich angerdd, eich syniadau, a'ch cyfranogiad yn gwbl hanfodol i’w wneud hyn yn foment wirioneddol ddiffiniol.

Ymunwch â ni a helpwch i lunio dyfodol gwell gyda'n gilydd!

Sut allwch chi gymryd rhan?

1. ✅Addo mynychu - rhowch wybod i ni y byddwch yno. https://actionnetwork.org/events/ignite-change-in-wales-join-the-act-now-change-forever-mass-lobby

2. ✅Edrychwch ar wefan Climate Cymru am y wybodaeth a'r adnoddau diweddaraf: https://climate.cymru/campaigns/act-now/

3. ✅Rhowch wybod i'ch Aelodau o’r Senedd eich bod yn dod, gan ddefnyddio'r templed ar y wefan hon : https://climate.cymru/campaigns/act-now/

4. ✅ Ac yn olaf.... Gwyliwch allan am negeseuon e-bost gennym ni i'ch diweddaru wrth i gynlluniau ac adnoddau datblygu @climatecymru

Event by
Clare James
Cardiff, United Kingdom
Sponsored by