Gofalu Creffwyr
Yn rhy aml o lawr, ni chaiff ein lleisiau ni, y gofalwyr di-dâl, eu clywed.
Trwy gofrestru ar gyfer ein gweithgarwch ymgyrchu gofalgar trwy grefft, helpwch ni i sicrhau bod ein lleisiau'n cyfrif a mynd i'r afael â'r teimlad o fod yn anweledig. Mae hwn yn gydweithrediad rhwng ymgyrch We Care, yr artist tecstilau enwog, Vanessa Marr, ac Oxfam Cymru.
Rydym am newid hyn gyda'n gweithgarwch ymgyrchu trwy grefft. Mae ymgyrchu trwy grefft yn ffordd unigryw o ddod â lleisiau a phrofiadau gofalwyr at y rheiny sy'n gwneud penderfyniadau.
Pwythwch eich dirnadaeth o fod yn ofalwr ar gadach tynnu llwch melyn.
Mae'r prosiect hwn wedi'i gynllunio i ffitio o amgylch eich bywydau prysur. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, byddwch yn cael cit trwy'r post ac yn cael eich gwahodd i ymuno â gweminarau i ddysgu am bwytho a chwrdd â gofalwyr eraill. Bydd y gweminarau'n cael eu recordio ac ar gael ar-lein i bobl y mae'n well ganddynt wneud gwaith crefft yn eu hamser eu hunain.
Bydd y cadachau tynnu llwch yn cael eu harddangos mewn arddangosfa yn y Senedd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Cofrestrwch ar gyfer eich cit ymgyrchu trwy grefft rhad ac am ddim yma.
Yn y cyfamser, dilynwch ein cyfryngau cymdeithasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiect. Dolenni isod.
Pob hwyl yn pwytho!