Helpwch Gymru i ddod o hyd i’w hochr wyllt – dangoswch eich cefnogaeth i ailwylltio yng Nghymru i'ch Aelodau newydd o'r Senedd.

Coastal headland in bloom
Welsh Rewilding Alliance

Mae gennym lywodraeth newydd

Felly mae’n amser dangos eich cefnogaeth i ailwylltio. Rydyn ni wedi darllen addewidion y maniffestos dros natur a’r hinsawdd ac rydyn ni eisiau gweld y cynlluniau. Mae angen symud ymlaen o siarad am obaith a newid i weithredu, ac mae angen i ni deimlo’r uchelgais.

Ailwylltio fel ateb

Mae natur yng Nghymru mewn trafferth, ac mae ymdrechion i fynd i’r afael â hynny ymhell ar y tu ôl i genhedloedd eraill. Ond pan ddaw taw ar arferion echdynnol a phan gaiff natur arwain eto, gall yr adferiad fod yn syfrdanol – i fyd natur ac i bobl.

Mewn arolwg diweddar o dir wedi’i ailwylltio yn yr Alban, cafwyd bod cynefinoedd addas i adar wedi ehangu dros bum gwaith, tra bod niferoedd cacwn a gloÿnnod byw wedi cynyddu ddeg gwaith. Yn Ystâd Knepp, yng Ngorllewin Sussex, mae adar sy’n magu wedi cynyddu 900%, tra bod rhywogaethau fel y Durtur a’r glöyn byw y Fantell Borffor wedi dychwelyd. Gwelwyd llwyddiannau tebyg gydag ailwylltio ar y môr hefyd. Cofnododd Community of Arran Seabed Trust fod niferoedd cimychiaid a chregyn bylchog wedi cynyddu bedair gwaith mewn parthau ‘dim-cymryd’, tra bo’r Forgath lygadog wedi ailymddangos ar ôl absenoldeb o dri deg mlynedd; yn y cyfamser, mae’r dyfroedd llawn bioamrywiaeth yn denu ecodwristiaeth ac yn cryfhau pysgodfeydd lleol.

Felly beth sy’n ein hatal rhag efelychu’r llwyddiannau hyn?


Letter Campaign by
Hitchcock James
Welsh Rewilding Alliance